Beth yw Cei Llechi?
Yn hanesyddol, roedd gan ardal Cei Llechi hanes pwysig iawn ym myd diwydiannol Caernarfon a’r cylch.
Erbyn heddiw mae adfaelion yr hen adeiladau wedi’u traswnewid ar gyfer 19 o unedau gwaith / crefft / manwerthu a bwytai.
Hefyd ar y safle mae 3 llety gwyliau hunan arlwyo, ystafell gyfarfod ac arddangosfa yn nodi hanes ardal Cei Llechi a’i bwysigrwydd yn lleol, genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Amdanom Ni
Pwy Sydd Yma?
Mr Kobo
Mae Nader aka Mr Kobo, yn Artist a Darlunydd yng Ngogledd Cymru. Mae'r cyfryngau a ddefnyddir yn amrwyio o luniadau graffit a beiro i weithiau mawr wedi'u paentio a chwistrell. Mae o hefyd yn creu darnau pren wedi'u teilwra gan ddefnyddio Pyrography/PyroArt.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Mr Kobo
Oriel Cone Twelve
Mae Oriel Cone Twelve yn arddangos gweithiau cerameg a cherflunwaith artistiaid o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnig cyfle i gasglwyr gysylltu â chelf unigryw ac arbennig.
Oriel Cone Twelve
Lisa Eurgain Taylor
Mae Lisa yn artist sy'n peintio tirluniau haniaethol wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri. Mae hi hefyd yn mwynhau gwneud comisiynau, gwerthu prints o ei waith a chynnal gweithdai.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.lisaeurgaintaylor.com lisa.eurgain.celf.art
Lisa Eurgain Taylor
Beth Horrocks Gallery
Yn fwyaf adnabyddus am ei phalet lliw dyrchafol a'i marciau chwareus ac unigryw, mae darluniau Beth yn ennyn gwerthfawrogiad o dirwedd ddramatig Cymru. Mae Beth wrth ei bodd gyda’r awyr agored ac yn gweld ei thirwedd yn ddathliad o harddwch naturiol Cymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Oriel Beth Horrocks
Siop Pen Gwyn
Melysion Traddodiadol a Chyffug Menyn Cymreig Cartref a Llaw, wedi'i wneud yn siop Siop Pen Gwyn sy'n swatio yng Nghei Llechi. Mae ganddyn nhw hefyd siop ym Meddgelert ac maen nhw'n cynnig gwasanaeth archebu ar-lein.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
sioppengwyn.co.uk caernarfonpengwyn
Siop Pen Gwyn
La Marina Cei
Mae La Marina Cei yn fwyty plâtiau bach sy'n cynnig bwydlenni tymhotol gyda blasau o bedwar ban y byd. Mae eu "bottomless bruch" wedi bod yn boblogaidd gyda diodydd diderfyn a tri phlât i ddewis ohonynt. Coctels blasus, coffi a chacen gyda lager Sbaeneg ar ddrafft.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
La Marina Cei
Crefft Migldi Magldi
Mae Creft Migldi Magldi yn bartneriaeth rhwng yr artistiaid Tesni ac Angharad, sy'n ymroddedig i feithrin doniau crefftwyr ifanc Cymreig tra'n cyfoethogi'r gymuned leol. Maent yn curadu detholiad unigryw o ddarnau o ansawdd uchel, wedi’u gwneud â llaw.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Creft Migldi Magldi
Jam Lady a Crymz
Yn The Jam Lady mae jam, siytni a marmalêd, gyda llond trol o flasau bendigedig i ddewis o’u plith.
Mae Crymz yn gwmni cacennau ac arlwyo Cymreig sy'n creu cacennau cartref, te prynhawn, cacennau ar gyfer achlysur arbennig a llawer mwy!
Jam Lady a Crymz
Celf Jane Fellows
Mae Jane yn adnabyddus am ei gwaith pastel meddal bywiog gan ddarlunio anifeiliaid, adar a thirweddau mynegiannol. Mae'n cynnig gweithdai a thiwtora mewn technegau amrywiol ac yn croesawu comisiynau ar gyfer portreadau anifeiliaid anwes.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
janefellows.org/ jane.fellows_art
Celf Jane Fellows
Salon y Cei
Mae Salon y Cei yn cynnig trin gwallt arbenigol yn Cei Llechi, Caernarfon. Dan arweiniad Steven, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad, mae’r salon yn cyfuno steilio proffesiynol ag awyrgylch croesawgar a chynnes.
Salon y Cei
Wellness by Sherin
Mae Sherin yn hyfforddwraig ffitrwydd ac yn berchen ar Body by Sherin - campfa i ferched yn unig wedi ei leoli yn Cibyn, Caernarfon. Mae ei menter newydd, Wellness by Sherin, yn cynnig gofod pwrpasol ar gyfer sesiynau llesiant o bob math, gan gynnwys ioga, pilates, sesiynau cyn ac ôl-enedigol, sesiynau mam a'i phlentyn, cefnogaeth menopôs a llawer mwy.
Wellness by Sherin
Calon a Chleddyf
Mae Calon a Chleddyf yn stiwdio datŵ cyfoes yng nghanol Cei Llechi, Caernarfon. Fe’i sefydlwyd gan yr artistiaid Mari Thomas ac Elen Morris, ac mae’r stiwdio’n cyfuno celf gain a dyluniad beiddgar i greu tatŵs unigryw ac ystyrlon mewn gofod croesawgar a chynhwysol.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Calon a Chleddyf
A.G. Shoots
Mae A.G. Shoots Photography yn stiwdio ffotograffiaeth broffesiynol. Mae Agata yn arbenigo mewn cipio eiliadau hyfryd i deuluoedd a babanod. Gyda ffocws ar greadigrwydd mae ei stiwdio yn darparu profiad unigryw i gleientiaid sydd am ddogfennu cerrig milltir pwysig yn eu bywydau.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
agshootsphotography a.g.shoots_photography
A.G. Shoots
Becws Melys
Wedi'i rhedeg gan Bethan & Peris, mae Becws Melys wedi ei leoli yng nghanol Cei Llechi. Bydd Becws Melys yn gweini eu cacenni caws enwog a phob math o felysion eraill, yn ogystal â bwyd sawrus poeth i’w bwyta i mewn neu i’w cymryd oddi yno.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Becws Melys
Glyn Davies
Mae Glyn Davies wedi treulio deugain mlynedd fel ffotograffydd proffesiynol yn dilyn pedair blynedd mewn addysg uwch ffotograffig yn Ysgol Gelf Falmouth, ac yna Prifysgol Westminster. Mae’n mwynhau saethu portreadau lleoliad ‘onest’ a gwaith dogfennol.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
glynsphotoart.com glyndaviesgallery
Glyn Davies
Aros yn Cei Llechi
Fel rhan o’r datblygiad, mae 3 fflat gwyliau/hunan arlwyo a rhain wedi’u henwi yn Nantlle, Cwm Gwyrfai a Moel Tryfan – enwau tri o chwareli Dyffryn Nantlle oedd danfon llwyth llechi lawr i Gei Llechi cyn eu dosbarthu i bedwar ban byd.
Mae’r fflatiau wedi cyrraedd safon 5 seren gan Croeso Cymru ar gyfer ansawdd y cyfleusterau.
Instagram
ceillechi