Bocsys Celf
Cartref > Bocsys Celf
Mae Bocsys Celf Cei Llechi yn safleoedd arddangos awyr agored bach sy’n byw o fewn waliau Cei Llechi, sy’n cynnig llwyfan unigryw i artistiaid arddangos eu creadigaethau.
Edrychwch o gwmpas Cei Llechi i weld a allwch chi ddod o hyd i'r pedwar bocs.
Fraxinus Excelsior: Memorial Urns
Lillemore Latham
18/03/26 - 16/07/26
Mae coed ynn (fraxinus excelsior) yn rhywogaeth ganopi bwysig sydd â manteision bioamrywiaeth sylweddol ac maent yn gartref i lawer o organebau, y mae rhai ohonynt yn dibynnu'n llwyr ar eu bodolaeth.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn amhosibl peidio â sylwi ar y dinistr y mae clefyd y coed wedi'i gael ar ein coed wrth iddo ysgubo trwy'r ardal leol gyda choed tirnod a choetiroedd bach yn cael eu tynnu i lawr am ragofalon diogelwch.
Mae'r wrnau coffa hyn wedi'u gwydro â'r lludw o bren heintiedig wedi'i losgi ac yn nodi effaith epidemig clefyd y coed ynn.
Rhagwelir y bydd y clefyd yn arwain at golli 80-90% o'r coed ynn yn yr ardal leol.
Marged Owain
Hiraeth
Rhagfyr - Mawrth
Mae’r gyfres hon yn ail-ddychmygu gwerthoedd crefft draddodiadol drwy arteffactau newydd sy’n archwilio naratif a hanes. Y cylchoedd consentrig sy’n seiliedig ar waith turnio a cherfiadau Dyffryn Ogwen, tra bo’r gwaelodion efydd yn symbol o werth amser wrth ddysgu sgiliau. Mae’r canhwyllau gwydr yn cynrychioli bregusrwydd bywyd, a’r edau Gymreig yn cyfeirio at hyd amrywiol bywydau. Bwriad y gwaith yw coffáu a dathlu ein crefftau, gan werthfawrogi sgiliau a etifeddwyd gan fy nheulu. Mae’r ysgrifen ar y gwydr yn gerdd gan Brian Patten, wedi’i hysgrythu â’m llaw.




