Gweithdy Castio Organig
Cartref > Digwyddiadau > Gweithdy Castio Organig
Gweithdy gemwaith i ddechreuwyr: castio organig
17.11.25 | 17:30 – 20:00 | £95
Ymunwch â ni am noson greadigol yn yr efail wrth i chi ddysgu sut i ailddefnyddio a chastio metel i ffurfio siapiau organig unigryw.
Wrth weithio gyda darnau o fetel - yn bennaf brass a ailgylchwyd o weithdai blaenorol - byddwch yn defnyddio fflam ocsigen a phropan i doddi a thywallt y metel i wahanol fowldiau a deunyddiau organig fel dŵr, chickpeas, a hyd yn oed spaghetti. Yna fe fyddwch yn mireinio eich castiau i greu darnau unigryw fel tlysau, clustdlysau neu addurniadau cerfluniol.
Darperir pob offer a deunydd – ond dewch â’ch creadigrwydd gyda chi a gwisgwch ddillad na fyddai ots gennych chi eu baeddu!
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres o weithdai gemwaith sy’n rhedeg dros 6 wythnos; gallwch archebu pob un ar wahân neu archebu’r set gyfan o weithdai am gost is! Dim ond 6 lle sydd ar gael felly archebwch eich lle nawr!
