Pentref Siopau Artisan

Gweithdy Gosod Carreg

Cartref > Digwyddiadau > Gweithdy Gosod Carreg

Gweithdy gemwaith i ddechreuwyr: gosod carreg mewn bezel

24.11.25 | 17:30 – 20:00 | £110

Ymunwch â ni am noson greadigol yn yr efail wrth i chi ddysgu sgiliau sylfaenol gosod cerrig mewn bezel gan ddefnyddio carreg cabochon ac arian sterling.

Yn y gweithdy hwn, byddwch yn canolbwyntio ar feistroli un sgil allweddol mewn gwneud gemwaith a gweithiau arian. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gadael gyda darn wedi’i orffen, darperir arweiniad creadigol fel y gallwch ganolbwyntio ar ddysgu’r dechneg. Byddwch yn dewis carreg, yn gwneud y gosodiad, ac yna’n gosod eich carreg - gan greu tlws hardd i’w gadw neu ei roi i rywun agos dros y Nadolig hwn.

Darperir pob offer a deunydd – ond dewch â’ch creadigrwydd gyda chi a gwisgwch ddillad na fyddai ots gennych chi eu baeddu!

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres o weithdai gemwaith sy’n rhedeg dros 6 wythnos; gallwch archebu pob un ar wahân neu archebu’r set gyfan o weithdai am gost is! Dim ond 6 lle sydd ar gael felly archebwch eich lle nawr!

Archebwch eich lle

Pob digwyddiad