Gweithdy Llifio ac Asio
Cartref > Digwyddiadau > Gweithdy Llifio ac Asio
Gweithdy gemwaith i ddechreuwyr: Llifio ac Asio
03.11.25 | 17:30 – 20:00 | £75
Ymunwch â ni am noson greadigol yn yr efail wrth i chi ddysgu’r ddwy dechneg sylfaenol wrth wneud gemwaith – llifio ac asio.
Yn y dosbarth hwn sy’n addas i ddechreuwyr, byddwch yn gweithio gyda brass (yn bennaf gyda dolenni a chlustdlysau arian sterling), metel lliw aur sy’n ddelfrydol ar gyfer arbrofi a dysgu sgiliau newydd gan nad yw’n gadael staeniau ar eich croen fel copr. Byddwch yn dylunio a gwneud eich tlysau neu bâr o glustdlysau gorffenedig eich hunain neu keyring, a cewch fynd ag ef adref gyda chi!
Cyn y gweithdy, gofynnwn i chi ddod â syniad neu ddyluniad syml o’r hyn yr hoffech ei wneud fel y gallwn wneud y mwyaf o’n hamser gyda’n gilydd. Yna byddwch yn:
- Dysgu sut i lifio’ch dyluniad yn ddiogel allan o lafn brass
- Asio pinnau clustlysau neu ddolenni tlysau
- Ffeilio, sandio a pholisio eich darn yn barod i’w wisgo adref
Darperir pob offer a deunydd – ond dewch â’ch creadigrwydd gyda chi a gwisgwch ddillad na fyddai ots gennych chi eu baeddu!
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres o weithdai gemwaith sy’n rhedeg dros 6 wythnos; gallwch archebu pob un ar wahân neu archebu’r set gyfan o weithdai am gost is! Dim ond 6 lle sydd ar gael felly archebwch eich lle nawr!
