Gweithdy Modrwyau Arian
Cartref > Digwyddiadau > Gweithdy Modrwyau Arian
Gweithdy gemwaith i ddechreuwyr: gwneud modrwyau o arian sterling
10.11.25 | 17:30 – 20:00 | £85
Ymunwch â ni am noson greadigol yn yr efail wrth i chi ddysgu sut i wneud modrwyau arian sterling.
Wrth weithio gyda'r arian, byddwch yn gwneud dwy fodrwy o arian yr un. Fe ddysgwch sut i fesur ar gyfer maint eich modrwy, llifio’r metel, gweadu a gorffen y metel yn ogystal â pholisio â llaw i'w wneud yn sgleiniog.
Darperir pob offer a deunydd – ond dewch â’ch creadigrwydd gyda chi a gwisgwch ddillad na fyddai ots gennych chi eu baeddu!
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres o weithdai gemwaith sy’n rhedeg dros 6 wythnos; gallwch archebu pob un ar wahân neu archebu’r set gyfan o weithdai am gost is! Dim ond 6 lle sydd ar gael felly archebwch eich lle nawr!
