Jam Lady a Crymz
Jam Lady a Crymz
Uned 14, Cei Llechi
Yn rhannu Uned 14 mae The Jam Lady a Crymz, dau fusnes sy'n creu cynnyrch sy'n dod a dŵr i'n dannedd. Sefydlwyd The Jam Lady gan Catrin a Paul Wilson ac agorwyd eu drysau yn Cei Llechi dros yr Haf, 2025.
Dyma’r lle perffaith i fynd os ydych chi’n hoff o jam, siytni a marmalêd, gyda llond trol o flasau bendigedig i ddewis o’u plith.
Taryn Bennett yw'r wyneb tu ôl i Crymz. Dyma gwmni cacennau ac arlwyo Cymreig sy'n creu cacennau cartref, te prynhawn, cacennau ar gyfer achlysur arbennig a llawer mwy!
