Pentref Siopau Artisan

Oriel Cone Twelve

Oriel Cone Twelve

Uned 11, Cei Llechi

Mae Oriel Cone Twelve yn ddechrau ar fenter newydd i Jane a Mike Brumfield, wedi iddynt symud yn ôl i fyw i Gymru ar ôl 18 mlynedd yn yr Unol Daleithiau. Mae'r oriel yn arddangos gweithiau cerameg a cherflunwaith artistiaid o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnig cyfle i gasglwyr gysylltu â chelf unigryw ac arbennig. Drwy eu rhaglen fisol 'Spotlight', mae'r oriel yn rhoi sylw arbennig i artistiaid penodol, gan ddathlu ac arddangos eu gwaith.

A hwythau wedi bod yn berchen ar orielau gyda’i gilydd yn Hastings Sussex, Boise Idaho a Cannon Beach, Oregon eisoes, bydd Uned 11 y Cei Llechi yn antur arbennig i’r cwpl!

/llechi/resources/serameg ar gael yn y siop

Pob uned